Y wefan yma
Amdanom ni
Beth yw Gwneud Gwahanu yn llai Cymhleth?
Mae Gwneud Gwahanu yn llai Cymhleth yn wasanaeth ar-lein AM DDIM i rieni a chyplau sy’n delio ag ysgaru neu wahanu.
Bydd Gwneud Gwahanu yn llai Cymhleth yn:
- dangos i chi ble i ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy, offer hawdd i’w defnyddio a
gwasanaethau arbenigol ar amrywiaeth o bynciau - eich helpu i ganolbwyntio ar a delio gyda’r materion pwysicaf
- creu rhestr wedi’i phersonoli o wasanaethau cymorth ac offer ar gyfer eich
amgylchiadau
Os ydych yn byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, plîs defnyddiwch y cyswllt rhestr cefnogaeth personol i gael gwybodaeth gyfreithiol gywir a chysylltiadau defnyddiol i sefydliadau yn eich ardal chi.
Pwy sy’n rhedeg Gwneud Gwahanu yn llai Cymhleth?
Mae Gwneud Gwahanu yn llai Cymhleth yn rhan o fenter Help a chymorth i deuluoedd sydd wedi gwahanu’r Llywodraeth. Mae’r fenter yma’n ceisio annog rhieni i ofyn am gefnogaeth, ac yn datblygu a chydlynu’r cymorth sydd ar gael.
Sut cynhyrchwyd y wybodath yma?
Mae’r wybodaeth a ddarparwyd gan Gwneud Gwahanu yn llai Cymhleth wedi cael ei gynhyrchu mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau cymorth arbenigol. Mae hyn yn cynnwys:
Cyngor ar Bopeth – ar gyfer cyngor ar dai a chyngor ariannol
Y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yw darparwr cyngor mwyaf y DU, yn helpu pobl i ddatrys ystod eang o broblemau trwy ddarparu gwybodaeth a chymorth. Mae hyn yn cynnwys cynnig cyngor cyfreithiol, cyngor ar dai a chyngor ariannol i deuluoedd sydd wedi gwahanu.
Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) – ar gyfer gwybodaeth am gynhaliaeth plant, gwaith a budd-daliadau
Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yw adran y Llywodraeth sy’n gyfrifol am les, pensiynau a pholisi cynhaliaeth plant. Mae’n cefnogi rhieni sydd wedi gwahanu wrth wneud trefniadau cynhaliaeth plant, ac yn gweinyddu taliadau pensiwn a budd-daliadau’r wladwriaeth.
Family Lives – i Blant ac am fagu plant
Elusen yw Family Lives sy’n helpu rhieni i ddelio gyda newid drwy ddarparu cymorth proffesiynol, di farn, am bob agwedd o fywyd teuluol – gan gynnwys datblygiad plant, cefnogaeth magu plant / perthynas, chwalfa deuluol, a phryderon iechyd meddwl rhieni a’u plant.
Y Weinyddiaeth Cyfiawnder (MoJ) – am wybodaeth gyfreithiol a chyfryngu
Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw adran y Llywodraeth sy’n gyfrifol am y llysoedd, carchardai, gwasanaethau prawf a chanolfannau presenoldeb. Ei nod yw annog y defnydd o gyfryngu i ddatrys anghydfodau. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am gyfraith teulu a’r system gyfreithiol, gan gynnwys Cymorth Cyfreithiol.
Parent Connection – am wybodaeth ar faterion iechyd
Mae The Parent Connection yn wasanaeth a ddarperir gan One Plus One, sefydliad ymchwil perthynas blaenllaw’r DU. Mae’n cefnogi rhieni sy’n gwahanu neu’n cael trafferth gyda magu plant ar ôl gwahanu – gan gynnwys helpu rhieni a phlant i ddelio gyda’u hemosiynau.
Resolution – gwybodaeth gyfreithiol a chyfryngu
Sefydliad yw Resolution o 6,500 o gyfreithwyr teulu a gweithwyr proffesiynol eraill yng Nghymru a Lloegr, sy’n cymryd agwedd adeiladol, di wrthdrawiadol i faterion cyfraith teulu. Yn cynnig cyngor i rieni sydd wedi gwahanu, yn ogystal â chyplau heb blant, mae Resolution hefyd yn ymgyrchu am welliannau i’r system cyfiawnder teuluol.
Relate – am gymorth perthnasau
Relate yw darparwr cefnogaeth perthynas mwyaf y DU, yn helpu dros 1 miliwn o bobl y flwyddyn. Mae’r gwasanaethau’n cynnwys cwnsela perthynas i unigolion a chyplau, cyfryngu teuluol a chwnsela i blant a phobl ifanc.
Shelter – am wybodaeth a chyngor ar dai
Mae Shelter yn wasanaeth di-dâl sy’n cynnig cyngor arbenigol am ddim ar dai a chymorth ymarferol i unrhyw un sydd gyda phroblemau yn y maes yma – gan gynnwys teuluoedd wedi gwahanu sydd angen help i gadw eu cartref neu ymdrin gyda materion tai eraill.
Mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ar Gwneud Gwahanu yn llai Cymhleth i helpu gyda phob agwedd o ysgaru a gwahanu. Edrychwch a cheisiwch ddefnyddio ein offer cefnogi i greu rhestr cefnogaeth bersonol i chi eich hun.