Os oes gennych achos gyda’r Asiantaeth Cynnal Plant
Newidiadau i’r Asiantaeth Cynnal Plant
Bydd trefniadau cynhaliaeth plant a wnaed trwy’r Asiantaeth Cynnal Plant yn dod i ben rhwng nawr a 2017. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma (Saesneg yn unig). Dylech barhau gyda’ch taliadau ACP tan fyddwch yn clywed gan yr Asiantaeth Cynnal Plant -fel arfer byddant yn rhoi o leiaf chwe mis o rybudd cyn bydd eich trefniant yn dod i ben.
Defnyddiwyd cyfrifiad safonol i gyfrifo taliadau ACP.
Mae’r fformiwla yma yn ystyried:
- incwm y rhiant sy’n talu cynhaliaeth
- y nifer o blant sydd angen cynhaliaeth plant
- pa mor aml mae’r plant yn aros dros nos gyda’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth
- os oes unrhyw blant eraill mae’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth (neu eu partner) yn cael budd-dal plant ar eu cyfer
- os yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn talu cynhaliaeth plant ar gyfer plant eraill hefyd
Mae’r fformiwla ar gyfer cyfrifo taliadau cynhaliaeth plant yr un fath pan mae’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn hunangyflogedig, er bod rhaid iddynt ddarparu tystiolaeth o’u hincwm.
Os credwch fod eich taliadau ACP yn anghywir, dylech gysylltu gyda’r ACP yn syth.
Mae’r rhif cyswllt yr Asiantaeth Cynnal Plant rydych ei angen yn dibynnu ar ba swyddfa ACP sy’n rheoli eich achos. Ewch i gov.uk/child-maintenance/contactam restr lawn o rifau cyswllt yr Asiantaeth Cynnal Plant. Gallwch hefyd chwilio am eich swyddfa ACP lleol i ddod o hyd i’r rhif cyswllt yr ACP sydd ei hangen arnoch. Neu gallwch ffonio’r Llinell Ymholiadau Cymraeg ar 0845 7138 091.
Dylech ddefnyddio un o’r rhain os oes gennych achos Asiantaeth Cynnal Plant a agorwyd ar ôl mis Mawrth 2003 a bod gennych gwestiwn penodol am eich achos.
Dylech ffonio’r Llinell Ymholiadau Cymraeg ar 0845 713 8091 os oes gennych gwestiwn am achos Asiantaeth Cynnal Plant a agorwyd rhwng 1993 a mis Mawrth 2003. Gelwir y rhain yn achosion cynllun 1993. Gall llinell gymorth yr ACP eich helpu os oes gennych gwestiwn penodol am eich achos cynllun 1993.
Cwestiynau cyffredin am yr Asiantaeth Cynnal Plant
Gallwch gysylltu gyda’r Asiantaeth Cynnal Plant os oes gennych gwestiwn cyffredin am sut mae’r Asiantaeth Cynnal Plant yn gweithio. Fodd bynnag, efallai byddwch yn cael ymateb i gwestiwn cyffredin yn gyflymach wrth chwilio trwy’r wybodaeth cynhaliaeth plant ar gov.uk.
Ble gallaf fynd nesaf?
-
Gov.uk-Defnyddio'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant neu'r Asiantaeth Cynnal Plant
Mwy o wybodaeth am y sut i ddefnyddio'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ac Asiantaeth Cynnal Plant gan Gov.uk.
-
Gov.uk - Sut mae cynhaliaeth plant yn cael eu cyfrifo
Mwy o wybodaetham sut y cyfrifirtaliadau cynhaliaeth plantgan Gov.uk.
-
Dad.Info - Canllaw i achosion presennol yr ACP
Mwy o wybodaetham achosion presennolgyda'r Asiantaethcynnal plant ganDad.Info.