Bwlio a chwarae triwant
Mae’n normal i blant o bob oed deimlo’n bryderus ac yn drist wrth i’r teulu wahanu. Gallant gael trafferth ymdopi gyda’r holl straen.
Efallai y bydd yn anodd iddynt ymdopi gyda’r emosiynau negyddol yma.
Edrychwch allan am yr arwyddion
Gall gwaith ysgol eich plentyn ddioddef. Efallai byddwch yn gweld mwy o newidiadau yn eu hymddygiad adref neu yn yr ysgol.
- Dywedwch wrth yr ysgol am y newid i’ch bywyd teuluol.
- Gofynnwch i’r ysgol fod yn wyliadwrus am bethau fel methu’r ysgol neu fwlio.
- Os ydych yn poeni – trefnwch i weld athro neu athrawes eich plentyn, nyrs ysgol neu rywun arall mewn awdurdod.
- Dylech annog eich plentyn i son am eu teimladau.
- Os bydd eich plentyn yn ei chael yn anodd siarad gyda chi, awgrymwch iddynt siarad gyda rhywun arall maent yn gyfforddus gyda nhw – fel nain neu daid.
- Mae rhai ysgolion yn cynnig gwasanaeth cwnsela plant.
- Gofynnwch i’ch meddyg teulu neu ysgol am fanylion gwasanaeth cwnsela.
- Gyda’r rhiant arall, ceisiwch gytuno ar sut i daclo camymddwyn.
- Dylech gynnwys eich cyn bartner ym mhopeth yn yr ysgol – fel nosweithiau rhieni a chyngherddau.
Ble gallaf fynd nesaf?
-
The Parent Connection - ysgol a materion eraill
Fideo gan y Parent Connection sy'n dangos pwy all helpu gyda materion teuluol a phryderon teuluol cyffredinol.
-
Mumsnet - methu'r ysgol mewn arddegau
Gwybodaeth a chyngor am blant yn eu harddegau sy'n peidio mynd i'r ysgol gan Mumsnet.
-
Dad.info - bwlio
Gwybodaeth gan Dad.info ar bob agwedd o fwlio ymhlith plant, a sut gallwch daclo hyn.