Helpu eich plentyn i ddeall eu teimladau
Mae’ch plentyn yn debygol o deimlo bob math o bethau gwahanol. Gall fod yn gymysgedd o ddicter, tristwch, pryder, dryswch a chywilydd. Yn aml, mae plant yn ei chael yn anodd siarad am eu teimladau, ond byddwch yn gallu gweld eu hymateb ac yn gallu eu cefnogi drwy hyn.
Helpu a deall
- Byddwch yn amyneddgar – gallai eich plentyn ddechrau camymddwyn.
- Gadewch iddynt ddangos eu bod yn ddig neu’n drist – er bod hynny’n anodd i glywed.
- Peidiwch â bod ofn ateb cwestiynnau yn onest.
- Bydd eich plant yn teimlo’n fwy sicr os gallwch siarad gyda’ch gilydd yn aml.
- Bydd siarad gyda’ch gilydd yn helpu plant i ddygymod gyda’r newidiadau.
- Bydd rhaid i chi dderbyn y bydd newidiadau mewn ymddygiad eich plentyn.
- Gosodwch reolau clir.
- Cadwch eich teimladau personol am wahanu allan o olwg y plant.
- Helpwch eich plentyn i gynnal bob perthynas pwysig yn y teulu.
- Gall neiniau, teidiau, modryb neu ewythr, cefndryd a chyfneitherod helpu sicrhau eich plentyn.
Ble gallaf fynd nesaf?
-
The Parent Connection - helpu plant i ddygymod gyda gwahanu
Cyngor gan Parent Connection i helpu eich plant i ddygymod gyda gwahanu.
-
Centre for separated families - sut bydd fy mhlant yn teimlo?
Enghreifftiau - yn ôl oedran - o sut gall eich plant deimlo. Daw'r wybodaeth gan y ganolfan Centre for Separated Families, sef elusen cenedlaethol sy'n gweithio gyda phawb a effeithir arnynt gan wahanu er mwyn cael gwell canlyniad i'r plant.
-
National Family Mediation - helpu plant drwy wahanu
Gwybodaeth a phethau i'w lawr-lwytho er mwyn eich helpu i siarad gyda'ch plant am wahanu, gan National Family Mediation (NFM).