Magu plant ar ôl gwahanu
Mae gwahanu yn anodd. Mae’n galed ar oedolion a gall fod yn waeth byth i blant. Gallai helpu os gallwch:
- Derbyn bod eich cyn-bartner dal yn rhiant a bod ganddynt ran bwysig i chwarae ym mywyd eich plentyn a bod well ceisio magu plant ar y cyd cyn belled â bod hynny’n ddiogel.
- Os na allwch gytuno ac yn y diwedd yn mynd i’r llys, bydd y barnwr yn ceisio cynnwys y ddau riant ym mywyd y plentyn gyda threfniant magu plant ar y cyd sydd orau i’r plentyn.
- Hefyd bydd y barnwr yn disgwyl i chi a’ch partner feddwl am sut gall cyfryngu teuluol eich helpu.
Trefniant cydweithredol yw magu plant ar y cyd yn dilyn ysgariad neu wahanu ble mae gan y ddau riant yr hawl a’r cyfrifoldeb o fod yn cymryd rhan weithredol yn magu eu plentyn neu blant.
- Ceisiwch barhau i ganolbwyntio ar anghenion eich plentyn yn hytrach na’ch ‘hawliau’ fel rhiant.
- Gall cynllun magu plant ar y cyd fod yn ddefnyddiol i’ch helpu i ganolbwyntio ar anghenion eich plentyn a rhoi cyfle i chi feddwl am eu hanghenion.
- Canolbwyntiwch ar adeiladu perthynas tebyg i berthynas busnes gyda’ch cynbartner wrth wneud trefniadau ar gyfer y plant. Gall cyfryngwr teuluol eich helpu gyda hyn.
- Peidiwch â chael trafodaethau oedolion o flaen y plant, yn enwedig os ydych yn ei chael hi’n anodd cytuno.
Ble gallaf fynd nesaf?
-
One Space - co-parenting support
Siarad gyda rhieni sengl eraill a chael cefnogaeth arbenigwyr rhieni sengl er mwyn gwneud y gorau o fagu plant ar y cyd.
-
Families need Fathers – beth yw rhannu cyfrifoldebau magu plant
Gwybodaeth a chymorth gan 'Families need Fathers' i'ch helpu i ddysgu mwy am rannu cyfrifoldebau magu plant.
-
Netmums – cystodaeth wedi ei rannu: gwneud iddo weithio
Gwybodaeth a syniadau gan 'Netmums' i'ch helpu i ddysgu sut i wneud cystodaeth wedi ei rannu weithio ar gyfer eich plant.