Gweithio allan y trefniadau
Trefniadau ar gyfer plant
Gweithio allan eich trefniadau eich hunan – gan gynnwys gwarchodaeth eich plant – yw’r ffordd orau o symud ymlaen ar ôl gwahanu a sydd o fudd i’ch plentyn yn y pen draw. Gall fod yn haws a chyflymach na gweithrediadau llys.
Os ydych angen help proffesiynol ond am osgoi’r llys, gall cyfryngwr teuluol eich helpu i strwythuro eich trafodaethau a helpu’r ddau riant i ddod i gytundeb sy’n gweddu amgylchiadau pawb, gan gynnwys y trefniadau ar gyfer gwarchodaeth plant. Gall defnyddio cynllun magu plant eich helpu i ffocysu ar anghenion eich plentyn.
Gall cyfreithiwr hefyd eich helpu i drafod gyda’ch cynbartner a rhoi cyngor i chi am warchodaeth plant. Neu yn niffyg popeth arall, efallai y bydd angen i’ch cais fynd i’r llys.
- Cyn mynd i’r llys, mae disgwyl i chi ystyried cyfrynguteuluol i weld a fydd yn eich helpu i weithio pethau allan – dylai eich cyfreithiwr egluro hyn i chi.
- Gall achos llys hirfaith fod yn ddrud, ac yn straen mawr i’r rhieni a’r plant.
- Gall trefniadau ffurfiol a wnaed yn y llys fod yn anoddach i’w newid.
- Wrth edrych ar fagu plentyn a gwarchodaeth plant, lles y plentyn yw brif ystyriaeth y llys.
Bydd y Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 yn disodli gorchmynion ‘preswylio’ a ‘cyswllt’ gyda ‘gorchymyn trefniadau plant’ (CAO) sengl, yn effeithiol o 22ain Ebrill 2014.
Ni fydd y gorchymyn newydd yn effeithio ar bwerau’r llys i wneud penderfyniadau am warchodaeth plant – er enghraifft, ble mae plentyn yn byw a gyda phwy y mae’r plentyn yn cael cyswllt. Bydd rhieni neu ofalwyr yn gwneud cais am orchymyn yn yr un ffordd ac maent yn ei wneud nawr – trwy ddisgrifio’r trefniadau gofal maent am i’r llys eu hystyried. Bydd gorchymyn trefniadau plant yn gosod trefniadau byw’r plentyn ac yn gweithredu yn yr un modd a gorchymyn preswylio wrth benodi gyda phwy fydd y plentyn yn byw.
Ni fydd angen i rieni a gofalwyr sydd gan orchymyn preswylio neu gyswllt yn barod ail-geisio am orchymyn trefniadau plant; ni fydd eu gorchymyn presennol nac unrhyw gymorth ariannol maent yn eu cael sy’n gysylltiedig â’r gorchymyn, yn cael eu heffeithio gan y newid.
Ble gallaf fynd nesaf?
-
Family Lives - Pam fod cyswllt gyda’r ddau riant yn bwysig
Gwybodaeth am y pwysigrwydd o gyswllt, gan gynnwys linc i ymgyrch "Instructions not included", gan Family Lives.
-
The Parent Connection - cynllunio amser magu
Awgrymiadau a chyngor gan y Parent Connection i'ch helpu datblygu cynllun amser magu plant sy'n cwrdd ag anghenion eich plant.