Polisi preifatrwydd
Polisi preifatrwydd
Pa wybodaeth ydym yn ei chasglu gan ymwelwyr?
Rydym yn casglu dau fath o wybodaeth gan ymwelwyr: adborth (trwy e-bost gan ymwelwyr) a gwybodaeth ar ddefnydd (trwy ffeiliau cofnodi a cwcis).
Ffeiliau cofnodi
Mae ffeiliau cofnodi yn ein galluogi i gofnodi defnydd ymwelwyr o’r we-ap Gwneud gwahanu yn llai cymhleth. Nid yw’r ffeiliau cofnodi yn dal unrhyw wybodaeth bersonol allai gael ei defnyddio i’ch adnabod. Defnyddiwn y wybodaeth yma i wneud gwelliannau i osodiad a gwybodaeth y we-ap a’r wefan.
Cwcis (cookies)
Mae cwcis yn ddarnau o ddata sy’n aml yn cael eu creu wrth i chi ymweld â gwefan, ac sy’n cael eu storio yn y cyfeirlyfr cwcis ar eich cyfrifiadur.
Am fwy o wybodaeth am pa cwcis rydym yn eu defnyddio a pham ein bod yn eu defnyddio, ewch i’n tudalen cwcis.
Data bersonol
Nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch.
Nid yw unrhyw wybodaeth a rowch i mewn i’r we-ap Gwneud gwahanu yn llai cymhleth yn cael ei storio gydag unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi. Ni allwn gysylltu gyda chi na rhoi gwybod i chi am unrhyw newid i’r we-ap na’r wybodaeth a roddir ar y we-ap neu a ddarperir gan y we-ap.
Newidiadau i’r polisi preifatrwydd yma
Os bydd y polisi preifatrwydd yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi fersiwn diwygiedig ar y dudalen yma. Bydd adolygu’r dudalen yma’n rheolaidd yn sicrhau y byddwch bob amser yn ymwybodol o’r wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei defnyddio, ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu gyda phartïon eraill.