Budd-dal Plant
Mae Budd-dal Plant yn daliad di-dreth y gallwch wneud cais amdano i’ch helpu i dalu am gynnal eich plentyn.
Ffeithiau am Fudd-dal Plant:
- Fel arfer, caiff ei dalu bob pedair wythnos, ond weithiau bob wythnos.
- Mae gwahanol gyfraddau yn cael eu talu ar gyfer bob plentyn.
- Os oes gennych incwm o £50,000 neu fwy, gall tâl treth newydd effeithio’r swm a delir.
Fel arfer, bydd taliadau Budd-dal Plant yn stopio pan fydd eich plentyn yn cyrraedd 16 oed, oni bai eu bod mewn addysg neu hyfforddiant sy’n cyfrif ar gyfer Budd-dal Plant. Er enghraifft, nid yw cwrs addysg safon uwch fel gradd prifysgol yn cyfrif.
Ble gallaf fynd nesaf?
-
Gov.UK - Budd-dal Plant
Gwybodaeth am fudd-dal plant a'r broses o wneud cais - gan Gov.UK.
-
Cyngor Ar Bopeth - Budd-dal Plant
Mae'r ganolfan Cyngor Ar Bopeth yn egluro beth yw budd-dal plant a phwy all ei hawlio.
-
DAD.info - Budd-dal Plant
DAD.info yn egluro sut mae budd-dal plant yn gweithio ac yn cynnwys gwybodaeth i rieni sydd wedi gwahanu.