Help gydag arian a chyllid
Help gydag arian a chyllid
Gall gwahanu neu ysgaru fod yn gostus, a gall y gost ychwanegol o redeg dau dŷ ar ôl wahanu olygu bod angen gwneud i arian fynd ymhellach. Sicrhewch eich bod yn cael yr holl gymorth ariannol a help ychwanegol y mae gennych yr hawl i’w gael.
Gall gael cymorth gyda’ch materion ariannol fod yn bwysig i chi gan fod gwahanu ac ysgaru yn gallu fod yn ddrud. Gall byw ar ben eich hun ar ôl rhannu costau eich cartref hefyd fod yn gostus. Deallwch sut i gael trefn ar eich materion ariannol a darganfod o ble gallwch gael help gyda hyn.
Efallai byddwch yn darganfod bod gweithio allan y sefyllfa ariannol yn eich helpu i gymryd y cam cyntaf tuag at adeiladu perthynas magu plant da gyda’ch gilydd. Bydd yn helpu eich plant i wybod bod eu mham a’u tad yn creu dyfodol ariannol diogel iddynt.
Gyda’r holl newidiadau sy’n gysylltiedig â gwahanu, sicrhewch eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych yr hawl i’w gael. Bydd rhaid i chi hefyd rhoi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal bod eich amgylchiadau wedi newid. Dylai’n tudalennau budd-dal eich arwain i’r wybodaeth orau i’ch helpu pan fyddwch yn chwilio am help a chyngor am beth allwch ei hawlio neu ddim.
Help gyda’r gost o ynni, dŵr a biliau eraill y cartref
Os ydych yn derbyn budd-daliadau neu rydych ar incwm isel, efallai gallwch wneud cais am grant gan y llywodraeth i’ch helpu creu cartref ynni effeithiol. Gall hyn helpu i ostwng y gost o’ch biliau nwy, trydan neu ddŵr. Er enghraifft, gallwch gael grant i dalu am ynysiad llofft a fydd yn lleihau’r pris o gynhesu eich cartref.
Os oes gennych blant oedran ysgol, efallai gallwch gael help ariannol tuag at bethau fel cinio ysgol, dillad a chostau teithio. Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol.
Ewch i Help gyda chostau ysgol am fwy o wybodaeth am help gyda chostau ysgol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac ewch i Help with school costs yn yr Alban.
Os ydych yn cael budd-daliadau neu rydych ar incwm isel, efallai gallwch hefyd gael benthyciad gan Gronfa Gymdeithasol y Llywodraeth neu gynlluniau eraill. Mae’r benthyciadau yma ar gyfer treuliau “un tro” ac yn cynnwys taliadau angladd, grantiau mamolaeth, benthyciadau trefnu a thaliadau tywydd oer. Efallai y gallwch hefyd benthyg arian yn ddiogel gan undeb credyd.
Mae’r rhain yn cynnwys:
Efallai gall cynghorwr ariannol annibynnol eich helpu i gael mwy allan o’ch arian neu i arbed arian ar gostau. Er enghraifft, efallai gallant roi cyngor i chi am sut i gael y fargen gorau ar eich cynilion neu forgais.
Edrychwch ar y cysylltiadau isod os ydych am ddod o hyd i fwy o wybodaeth am arbed arian neu i gael gwybod mwy am gael help ariannol.
Ble gallaf fynd nesaf?
-
Cyngor Ar Bopeth - Dyled
Gwybodaeth i'ch helpu i ddelio gydag arian a phroblemau dyled, sut i osgoi colli eich cartref a sut i roi eich arian yn ôl mewn trefn.
-
Cyngor Ar Bopeth - Arbed arian ar filiau ynni
Gwybodaeth am grantiau i helpu gydag effeithlonrwydd ynni ac arbed arian ar gostau tanwydd
-
Cyngor Ar Bopeth - Y Gronfa Gymdeithasol a chynlluniau lles eraill
Gwybodaeth am Gronfa Gymdeithasol y Llywodraeth a chymorth arall.