Nodwch, oni bai y dywedir fel arall, mae’r wybodaeth yma yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig. Os ydych yn byw yn yr Alban, ceir wybodaeth a chyngor yn Parenting accross Scotland. Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i NI direct.

Gwahaniaethau cyfreithiol rhwng Cyfraith Gyffredin/Cyd-fyw a Phartneriaeth Sifil/Priodas

Nid yw byw gyda’ch gilydd am amser hir ac/neu fod gennych blant gyda’ch gilydd yn rhoi’r un ‘hawliau’ i chi a chwpl sydd yn briod neu’n rhan o bartneriaeth sifil os bydd eich perthynas yn darfod. Mae’n bwysig i chi wybod nad oes unrhyw statws cyfreithiol ar gyfer cyplau sy’n cyd-fyw ac nid oes y fath beth a gŵr neu wraig gydnabyddedig.

Os oes gennych ‘gontract cyd-fyw’ efallai y bydd gennych fwy o sail gyfreithiol. Mae contract o’r fath yn gosod allan hawliau a chyfrifoldebau penodol o fewn y berthynas ac felly yn helpu i neilltuo atebolrwydd. Gallwch hefyd greu cytundebau a ellir ei gorfodi’n gyfreithiol ar rai materion penodol, ond mae’n bwysig cael cyngor cyfreithiol ar hyn.

Mae hawliau cyfraith gyffredin a hawliau cyd-fyw yn faes cymhleth o’r gyfraith ac yn ddibynnol ar lawer o amgylchiadau gwahanol. Er enghraifft, p’un ai ydych yn berchen eich cartref gyda’ch gilydd, p’un ai yw eich enw ar y cytundeb tenantiaeth neu forgais neu weithred eiddo a p’un ai ydych wedi cyfrannu at brynu’r tŷ neu at daliadau’r morgais neu rent.

Os ydych yn gwpl sy’n cyd-fyw ac mae gennych blant, gallwch geisio cael cynhaliaeth plant ac efallai y gallwch wneud cais am daliadau eraill ar gyfer eich plentyn.

Ble gallaf fynd nesaf?