Ysgaru a gwahanu cyfreithiol
Nodwch, oni bai y dywedir fel arall, mae’r wybodaeth yma yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig. Os ydych yn byw yn yr Alban, ceir wybodaeth a chyngor yn Parenting accross Scotland. Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i NI direct.
Mae’r wybodaeth isod yn berthnasol i barau priod un rhyw a’r rhyw arall, oni nodir yn wahanol.
Gallwch ffeilio am ysgariad os ydych wedi bod yn briod am o leiaf blwyddyn ac mae un o’r ffeithiau uchod neu’r rhesymau dros ysgariad yn berthnasol i chi. Mae’n rhaid bod gennych briodas sy’n cael ei gydnabod yn gyfreithiol yn y DU a bod gennych gartref parhaol yng Nghymru a Lloegr.
Er mwyn cael ysgariad rhaid profi bod y briodas wedi dod i ben ac nad oes gobaith ei hachub. I gael ysgariad rhaid i chi roi tystiolaeth i brofi un o’r “ffeithiau” canlynol i brofi bod eich priodas wedi darfod yn anadferadwy:
- Bod eich gŵr neu’ch gwraig wedi godinebu gyda pherson o’r rhyw arall iddyn nhw (er os ydych yn parhau i fyw gyda hwy am fwy na 6 mis ar ôl i chi gael gwybod, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio hyn).
- Eu bod yn eich gadael am fwy na 2 flynedd (sy’n golygu eu bod wedi eich gadael ac yn byw ar wahân i chi heb eich cytundeb aheb reswm da).
- Rydych wedi byw ar wahân am ddwy flynedd ac mae’r ddau ohonoch yn cytuno i’r
ysgariad. - Rydych wedi byw ar wahân am bum mlynedd (dim angen cytundeb rhyngddoch).
- Ymddygiad afresymol – eich gŵr neu’ch gwraig wedi ymddwyn yn y fath fodd na
ellir disgwyl i chi fyw gyda nhw.
Mae gwahanu’n gyfreithiol yn gadael i chi byw ar wahan, heb orfod ysgaru neu ddiddymu partneriaeth sifil.
Gallwch ofyn i wahanu’n gyfreithiol am yr un rhesymau ac ysgaru, e.g:
- godinebu
- ymddygiad afresymol
Fodd bynnag, nid oes angen i chi ddangos bod y briodas wedi darfod yn anadferadwy.Bydd angen cwblhau deiseb gwahanu a’u hanfon at y llys er mwyn cael gwahanu’n gyfreithiol.
Bydd y gost o ysgaru yn dibynnu ar y camau byddwch yn eu dilyn yn eich achos ysgaru. Mae’r gost o ysgaru llawer uwch os bydd angen mynd i’r llys, neu ddefnyddio cyfreithiwr. Bydd dyfynbrisiau cost ysgariad yn amrywio yn dibynnu ar y cyfreithiwr a ddefnyddiwch ar gyfer achosion ysgariad, a chymhlethdod eich achos. Bydd rhai cyfreithwyr yn cynnig pris sefydlog am gost ysgariad.
Am wybodaeth am sut i gael ysgariad, ewch i’n tudalen ‘Y broses ysgaru’.
Ble gallaf fynd nesaf?
-
Resolution - Y broses gyfreithiol
Gwybodaeth gan Resolution ar gyfer gwneud cais am ysgaru a therfynu priodas.
-
Wikivorce - Ysgaru a Gwahanu
Cymorth, gwybodaeth a chyngor gan Wikivorce ar gyfer ysgaru a gwahanu.
-
Y Gymdeithas Gyfreithiol - Ysgaru
Gwybodaeth gan y Gymdeithas Gyfreithiol sy'n disgrifio'r broses ysgaru gam wrth gam.