Dod a phartneriaeth sifil i ben
Nodwch, oni bai y dywedir fel arall, mae’r wybodaeth yma yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig. Os ydych yn byw yn yr Alban, ceir wybodaeth a chyngor yn Parenting accross Scotland. Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i NI direct.
Bydd y broses a’r termau a ddefnyddir ychydig yn wahanol rhwng Cymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gan nad yw’r gyfraith yr un peth ar draws y cyfan o Gymru a Lloegr.
Er mwyn diddymu partneriaeth sifil, bydd yn rhaid i chi brofi bod y bartneriaeth wedi dod i ben ac nad oes gobaith ei hachub.
Rhaid i chi roi tystiolaeth i brofi un o’r “ffeithiau” canlynol:
- Mae eich partner sifil wedi eich gadael am ddwy flynedd (sy’n golygu eu bod wedi eich gadael ac yn byw ar wahân heb eich cytundeb a heb reswm da).
- Rydych wedi byw ar wahân am ddwy flynedd ac mae’r ddau ohonoch yn cytuno i’r diddymiad Rydych wedi byw ar wahân am bum mlynedd (nid oes angen cytundeb).
- Ymddygiad afresymol – mae eich partner sifil wedi ymddwyn mewn ffordd nad oes disgwyl i chi allu byw gyda nhw.
Gallwch wneud cais i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben -“diddymu partneriaeth sifil” – os ydych wedi bod mewn partneriaeth sifil am o leiaf blwyddyn a bod un o’r ffeithiau canlynol yn berthnasol. Mae’n rhaid bod gennych bartneriaeth sifil sydd yn cael ei chydnabod yn gyfreithiol yn y Deyrnas Unedig a bod gennych gartref barhaol yng Nghymru neu Lloegr er mwyn dod â’ch partneriaeth sifil i ben neu ei diddymu.
Mae 3 prif gam i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben:
- Ffeilio deiseb diddymu partneriaeth sifil-mae’n rhaid i chi wneud cais i’r llys am ganiatâd i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben a dangos rhesymau pam.
- Gwneud cais am orchymyn amodol-mae’n datgan eich bod yn gallu dod â’ch partneriaeth sifil i ben, ac y cewch wneud cais amdano os yw eich partner yn cytuno gyda’ch deiseb diddymu partneriaeth sifil NEU os oes gennych wrandawiad llys ac mae’r barnwr yn penderfynu rhoi gorchymyn amodol i chi.
- Gwneud cais am orchymyn terfynol – bydd yn dod â’ch partneriaeth sifil i ben neu yn ei diddymu’n gyfreithiol, a gellir gwneud cais amdano chwe wythnos ar ôl i chi gael y gorchymyn amodol.
Mae’r ffurflenni a deiseb diddymu partneriaeth sifil ar gael yn Gov.uk ar dudalen Dod â Phartneriaeth Sifil i ben.
Ble gallaf fynd nesaf?
-
Resolution - ysgariad a diddymu partneriaeth sifil
Ffeithlen gan Resolution yn amlinellu'r broses ar gyfer dod a phartneriaeth sifil i ben.
-
National Family Mediation - Y gyfraith
Mae National Family Mediation (NFM) yn rhoi braslun o'r gyfraith o ran ysgaru a gwahanu.
-
Cyngor Ar Bopeth - Dod a phartneriaeth sifil i ben
Mae'r ganolfan Cyngor Ar Bopeth yn rhoi gwybodaeth a chyngor am ddod a phartneriaeth sifil i ben.