Cyfreithwyr a’r llys
Oni bai y dywedir yn wahanol, mae’r wybodaeth yn yr adran yma yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig. Os ydych yn byw yn yr Alban, ewch i Parenting across Scotland am wybodaeth a chyngor. Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i NI direct.
Nid yw bob amser yn angenrheidiol i gynnwys cyfreithiwr neu fynd i’r llys os byddwch yn gwahanu neu wedi gwahanu. Ceisiwch ddod i gytundeb rhwng eich gilydd ar gynlluniau ar gyfer eich plant, trefniadau byw a materion ariannol, neu gyda help gan gyfryngwr neu fath arall o wasanaeth datrys anghydfodau. Os byddwch yn cytuno ar y pethau yma, ni fydd yn rhaid i chi fynd i wrandawiad llys ac efallai y gallwch wneud y gwaith papur eich hun heb gyfreithiwr.
Os byddwch angen help i ddeall eich hawliau neu gyfrifoldebau fel rhiant, gallwch ofyn i gyfreithiwr am eich sefyllfa. Gallwch wneud hyn ar unrhyw bwynt – wrth ystyried gwahanu neu ar ôl i chi wahanu; yn ystod trafodaethau; ar ôl i chi gyrraedd cytundeb gyda’ch gilydd neu tra byddwch yn rhoi cynnig ar gyfryngu.
Gall cyfreithwyr eich helpu i ddeall eich sefyllfa gyfreithiol eich hun a’ch helpu chi a’ch cynbartner i ddod i gytundeb heb fynd i’r llys. Gallant eich helpu i greu dogfen gyfreithiol os oes yna bethau y byddwch am ddibynnu arnynt yn y dyfodol – fel beth i’w wneud gyda’r tŷ neu bensiwn. Gall cyfreithiwr ysgrifennu llythyrau ar eich rhan a thrin a thrafod cytundeb gyda’ch cynbartner neu eu cyfreithiwr os oes ganddynt un. Mae hyn i gyd yn dibynnu ar amgylchiadau unigol eich achos.
Os ydych yn penderfynu defnyddio cyfreithiwr i helpu i fynd a’ch achos i’r llys, bydd rhaid i’ch cyfreithiwr roi gwybodaeth i chi am gyfryngu teuluol a’ch cyfeirio at wasanaeth cyfryngu fel y cewch wybod mwy am y broses hon. (Mae rhai amgylchiadau arbennig pan na fydd hyn yn berthnasol a gall eich cyfreithiwr egluro hynny).
Os yn y diwedd y byddwch yn penderfynu bod angen i chi fynd trwy’r broses llys, gallwch ddewis cael cymorth a chyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr neu fargyfreithiwr. Gallwch hefyd gynrychioli eich hun yn y llys fel ‘ymgyfreithiwr drosto’i hun’ heb ddefnyddio cyfreithiwr Am fwy o wybodaeth am hyn, ewch i ‘A fydd rhaid i mi fynd i’r llys?’.
- gallech ddod i gytundeb trwy gyfryngu heb orfod mynd i’r llys;
- gall cyfryngwr neu gyfreithiwr egluro eich opsiynau a fydd yn eich helpu i benderfynu os bydd wir angen i chi fynd i’r llys;
- faint gall mynd i’r llys ei gostio – edrychwch i weld os ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol;
- gallwch ofyn am gymorth cyfreithiol ar unrhyw adeg yn y broses, ac mae cymorth cyfreithiol i dalu am hyn ar gael ar gyfer rhai materion teulu (er enghraifft, os bydd trais yn y cartref yn berthnasol neu os ydych mewn priodas orfodol);
- os nad ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, efallai gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr lleol sy’n cynnig pecynnau am ffi benodol;
- gallwch gael cynrychiolaeth am ddim – chwiliwch am y ganolfan Cyngor ar Bopeth sydd agosaf atoch;
- gall achos llys gymryd amser hir;
Cewch restr o arbenigwyr, er enghraifft cyfreithwyr ar baneli arbenigol ar gyfer cyfraith teulu neu gyfraith plant a chyfryngwyr cyfreithiol yn:
- Gov.uk – cymorth cyfreithiol a dod o hyd i gyfreithiwr cymorth cyfreithiol
- Gov.uk – dod o hyd i gyfreithiwr
- Cymdeithas y Cyfreithwyr – dod o hyd i gyfreithiwr
- Resolution – dod o hyd i gyfreithiwr teulu
Ble gallaf fynd nesaf?
-
Wikivorce – Ydwyf angen cyfreithiwr?
Mae Wikivorce yn darparu gwybodaeth i’r rhai sy’n ansicr os ydynt angen cyfreithiwr.
-
Lawpack – Ydwyf angen cyfreithiwr ar gyfer fy ysgariad?
Gwybodaeth gan Lawpack ac enghreifftiau o sefyllfaoedd o pan fyddwch efallai angen cyfreithiwr.
-
Netmums – Y gost o ysgaru neu wahanu
Eglurhad gan Netmums am y gost o derfynu priodas yn ffurfiol.