Y gyfraith a theuluoedd
Nodwch, oni bai y dywedir fel arall, mae’r wybodaeth yma yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig. Os ydych yn byw yn yr Alban, ceir wybodaeth a chyngor yn Parenting accross Scotland. Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i NI direct.
Mae cyfraith teulu yn adran o’r gyfraith sy’n delio gyda materion sy’n ymwneud â’r teulu. Mae’r materion cyfreithiol sy’n cael eu hymdrin ag o dan gyfraith teulu yn cynnwys:
- priodasau a phartneriaethau sifil
- ysgaru, dirymiad, eiddo ag asedau eraill
- alimoni/cynhaliaeth briodasol
- cronfeydd ymddiriedolaeth teulu
Os oes gennych blant, mae cyfraith teulu hefyd yn ymdrin â:
- cynhaliaeth plant
- trefniadau gofal i blant
- anghytuno am dadolaeth
- cam-drin plant a chipio plant
- mabwysiadu a benthyg croth
Mae cyfraith teulu yn seiliedig ar y Ddeddf Cyfraith Teulu 1996. Mae’r Ddeddf Cyfraith Teulu yn dweud sut y dylai anghytundebau cyfreithiol ar faterion teuluol cael eu hymdrin.
Mae’r Ddeddf Cyfraith Teulu hefyd yn pennu’r:
- rheolau am gymorth cyfreithiol ar gyfer materion cyfraith teulu
- rheolau sy’n berthnasol i gyfryngu ar gyfer datrys anghytundebau teuluol
Ble gallaf fynd nesaf?
-
Resolution – Canolfan cyngor ar gyfraith teulu
Resolution - Canolfan cyngor ar gyfraith teulu
-
Deddf Cyfraith Teulu 1996
Deddf Cyfraith Teulu 1996
-
Coram Children's Legal Centre – Cyngor cyfreithiol am ddim
Coram Children's Services - Cyngor cyfreithiol am ddim
-
The Family Law Panel
Ydych chi angen sgwrs am ddim gyda rhywun proffesiynol sy’n gweithio gyda chyfraith teulu? Mae’r Panel Cyfraith Teulu yn rhan o’r fenter gymdeithasol OnlyMums ac OnlyDads, sy’n helpu chi a’ch teulu i wneud y penderfyniadau gorau i chi.