Eich cartref ac asedau eraill
Nodwch, oni bai y dywedir fel arall, mae’r wybodaeth yma yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig. Os ydych yn byw yn yr Alban, ceir wybodaeth a chyngor yn Parenting accross Scotland. Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i NI direct.
Effaith gwahanu ar eich cartref
Wrth wahanu, gall fod yn anodd cytuno a gwneud trefniadau sy’n addas i bawb am bwy sy’n aros neu gadael y cartref. Os oes gennych blant, dylai’r ddau riant ganolbwyntio ar eu hanghenion nhw a sicrhau eu bod mewn amgylchedd sefydlog yn eu cartref.
- Unwaith bydd eich cartref yn sefydlog, gall fod yn haws datrys pethau eraill.
- Dylech ddeall eich hawliau cyfreithiol a’ch opsiynau er mwyn gallu cynllunio ar gyfer y dyfodol.
- Os gall rhieni gytuno rhwng ei gilydd sut i symud ymlaen, bydd o fudd i’r plentyn yn y pen draw.
- Os na allwch gytuno ar bwy fydd yn aros yn y cartref teuluol, ewch am gyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr neu sefydlliadau fel y Ganolfan Cyngor Ar Bopeth.
Pan gewch ysgariad (neu’n diddymu partneriaeth sifil), bydd angen i chi roi trefn ar eich arian, gan gynnwys diweddaru eich ewyllys os oes gennych un, a phenderfynu beth fydd yn digwydd i’r cartref teuluol. Os na allwch weithio pethau allan eich hunan, bydd llys yn defnyddio’r gyfraith i wneud penderfyniadau.
Yng Nghymru a Lloegr, mae’r gyfraith yn datgan, wrth rannu eiddo mewn ysgariad:
- bod yn rhaid i’r llys flaenoriaethu lles unrhyw blant o dan 18 oed
- rhaid i chi fod yn onest am eich incwm, gallu i ennill, eiddo ac arian
Rhaid i’r llysoedd hefyd edrych ar faterion eraill gan gynnwys:
- incwm y ddau ohonoch a’ch gallu i ennill
- cyfrifoldebau’r ddau ohonoch yn y dyfodol
- y safon byw oedd gennych a’r cyfraniad a wnaethoch cyn i chi wahanu
- oedran y ddau ohonoch
- pa mor hir rydych wedi bod gyda’ch gilydd
- os oes un ohonoch:
- gydag unrhyw anabledd corfforol neu feddyliol
- yn mynd i golli unrhyw fudd-daliadau ar ôl i chi wahanu
- mewn dyled
- trosglwyddo eiddo – er enghraifft trosglwyddo’r cartref priodasol neu deuluol o un partner i’r llall, neu sicrhau bod cartref yn cael ei ddarparu ar gyfer y plant.
- gwerthu eiddo, fel y gallwch rannu’r arian sy’n deillio o hyn rhyngddoch.
Trefniadau ariannol eraillgall y llys ysgaru wneud gorchmynion ar eu cyfer
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gall y llys wneud gorchmynion ar gyfer y canlynol:
- Taliadau cynhaliaeth, sy’n golygu bod rhaid i un partner wneud taliadau rheolaidd i’r partner arall ar ôl gwahanu.
- Cyfandaliadau, sy’n golygu bod rhaid i un partner gwneud un taliad i’r partner arall i geisio gwneud yr arian sydd gennych yn fwy cyfartal
- Taliadau yn ymwneud â phensiynau
Ble gallaf fynd nesaf?
-
National Family Mediation - Arian
National Family Mediation (NFM) yn cynnig cyngor am rannu arian yn dilyn gwahanu.
-
Wikivorce - Setlliad ariannol
Braslun gan Wikivorce am wneud setliad ariannol.
-
Resolution - Beth os na allwn gytuno?
Gwybodaeth gan Resolution ar gyfer y rhai hynny sy'n methu cytuno sut i ddatrys arian yn dilyn gwahanu.
-
Shelter - Chwalu perthynas
Gwybodaeth gan Shelter ar hawliau cartref i gwplau sy'n gwahanu.
-
Cyngor Ar Bopeth - Dod a pherthynas i ben os ydych yn byw gyda'ch gilydd
Mae'r Ganolfan Cyngor Ar Bopeth wedi rhoi gwybodaeth am faterion tai ar ôl i berthynas ddod i ben.
-
Mumsnet - Eich hawliau tai
Mumsnet yn egluro materion tai ar ôl dod a pherthynas i ben.