Grwpiau cymorth ar gyfer ysgaru a gwahanu
Siarad gyda phobl yn yr un sefyllfa
I’r rhan fwyaf o bobl, mae gwahanu yn gyfnod poenus. Mae’n hollol normal mynd trwy wahanol gamau fel tristwch a dicter. Mae’r teimladau hyn yn mynd i fod yn anodd i bobl eu deall os nad ydynt wedi bod mewn sefyllfa debyg. Dyma pam y gall helpu i siarad gyda phobl sydd wedi bod mewn sefyllfa debyg i chi.
Nid yw’n rhy anodd cael cefnogaeth wrth wahanu neu ysgaru. Mae sawl opsiwn ar gael i chi wrth chwilio am gymorth am ysgaru. Mae grwpiau cymorth ar gyfer gwahanu ac ysgaru yn dod yn fwy a mwy cyffredin, gyda llawer o grwpiau a fforymau ar gael yn gyfleus ar-lein.
Wrth chwilio am gefnogaeth gydag gwahanu neu ysgaru, mae rhai pethau y dylech ystyried eu gwneud:
- Siaradwch gyda phobl eraill sydd wedi cael profiad tebyg.
- Siaradwch gyda rhywun y tu hwnt i’ch teulu neu ffrindiau – gall helpu i weld pethau’n wahanol
- Chwiliwch am fforwm neu grŵp ar-lein.
- Gofynnwch i’ch meddyg teulu ddarganfod grŵp cymorth gwahanu ac ysgaru lleol i chi.
- Gwrando ar sut mae pobl eraill fel chi wedi dysgu ymdopi
- Meddyliwch am beth allai weithio i chi.
Ble gallaf fynd nesaf?
-
Families need Fathers - cyfarfodydd cangen lleol
Manylion o gyfarfodydd cangen lleol Families Need Fathers - mae Families Need Fathers yn rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i rieni o'r naill ryw, neiniau a theidiau ac aelodau o'r teulu ehangach yn dilyn ysgariad a gwahanu.
-
Gingerbread - cymuned
Mae cymuned Gingerbread yn cynnig gwybodaeth arbenigol, cyngor, cefnogaeth ymarferol ac yn ymgyrchu dros deuluoedd un rhiant. Maent yn rhedeg Llinell Gymorth sy'n rhad ac am ddim a gwefan sy'n llawn cyngor a fforymau rhyngweithiol.
-
Family Lives - darganfod cefnogaeth yn ystod ysgariad / gwahanu
Gwasanaeth "Livechat", fforymau ar-lein a chefnogaeth gan Family Lives, elusen genedlaethol sy'n rhoi help a chefnogaeth ar bob agwedd o fywyd teuluol.